2011 Rhif 1942 (Cy. 209)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli darpariaethau a gafwyd gynt yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”), fel y'u diwygiwyd, drwy wneud newidiadau i’r darpariaethau hynny.  Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod y pennaeth yn cadw cofnodion am  gofnodion cwricwlaidd (fel y’u diffinnir yn rheoliad 3) disgybl mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol ac ysgol arbennig nas cynhelir felly (rheoliad 4). Mae’r darpariaethau yn Rheoliadau 2004 mewn perthynas ag adroddiad pennaeth i rieni a disgyblion sy’n oedolion wedi eu cynnwys bellach yn Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011.

Maent yn gwneud darpariaeth hefyd bod y pennaeth yn datgelu ac yn trosglwyddo cofnodion addysgol (fel y'u diffinnir yn rheoliad 3) i rieni ac i ysgolion y mae disgyblion dan ystyriaeth i gael eu trosglwyddo iddynt (rheoliad 5). Mae rheoliad 6 ac Atodlen 2 yn nodi cynnwys yr adroddiad y mae'n ofynnol i bennaeth yr hen ysgol ei anfon at bennaeth yr ysgol newydd pan fo'r disgybl wedi trosglwyddo i'r ysgol newydd.

Pan fo’n angenrheidiol, rhaid i unrhyw ddogfen neu wybodaeth, y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael o dan y Rheoliadau, gael ei chyfieithu i'r Gymraeg neu'r Saesneg neu i iaith arall neu gael ei chynhyrchu mewn Braille neu dâp sain (rheoliad 7).


2011 Rhif 1942 (Cy. 209)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011

Gwnaed                           29 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       4 Awst 2011

Yn dod i rym                              1 Medi 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408, 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]) ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu 

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Medi 2011.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Mae’r rheoliadau yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw’r trefniadau asesu hynny a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir o dan—

                     (i)              adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf 2002([3]) mewn perthynas â disgyblion yn y cyfnod sylfaen; neu

                   (ii)              adran 108(3)(c) o Ddeddf 2002([4]) mewn perthynas â disgyblion mewn cyfnod allweddol;

ystyr “canlyniad” (“result”), o ran unrhyw asesiad o dan yr asesiadau statudol yw canlyniad yr asesiad fel y mae wedi ei benderfynu a'i gofnodi'n unol â'r trefniadau hynny;

mae’r term “cyfnod sylfaen” i'w ddehongli'n unol â “foundation stage” yn adran 102 o Ddeddf 2002;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002([5]);

ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw—

(a)     pennaeth ysgol annibynnol neu berchennog ysgol o'r fath;

(b)     yr athro neu'r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion;

(c)     corff llywodraethu unrhyw ysgol arall; neu

(ch) y person sy'n gyfrifol am gyfarwyddo unrhyw sefydliad addysg bellach neu le arall ar gyfer addysg neu hyfforddiant y mae disgybl yn trosglwyddo iddo neu y gallai drosglwyddo iddo;

mae “rhif ALl” (“LA number”) yn gyfuniad o rifau sy’n cael ei ddyrannu i awdurdod lleol sy'n neilltuol i'r awdurdod hwnnw, a hwnnw’n gyfuniad a benderfynir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd, ynghyd â llythyren neu lythrennau, yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n neilltuol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “rhif unigryw dysgwr” (“unique learner number”), mewn perthynas â disgybl cofrestredig mewn ysgol, yw’r cyfuniad penodol o rifau sydd wedi eu dyrannu i’r disgybl gan Brif Weithredwr yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau fel rhif unigryw dysgwr y disgybl hwnnw;

mae “rhif ysgol” (“school number”) yn gyfuniad o rifau sy’n cael ei ddyrannu i ysgol ac sy'n neilltuol i'r ysgol honno, a hwnnw’n gyfuniad a benderfynir gan Weinidogion Cymru; ac

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig (nad yw'n un a sefydlwyd mewn ysbyty) ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod lleol neu uned cyfeirio disgyblion.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at bennaeth neu gorff llywodraethu, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yn gyfeiriad at yr athro neu'r athrawes sydd â gofal dros yr uned cyfeirio disgyblion.

Ystyron cofnod cwricwlaidd a chofnod addysgol

3.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cofnod cwricwlaidd” (“curricular record”) yw cofnod ffurfiol o gyraeddiadau academaidd disgybl, sgiliau a galluoedd eraill y disgybl a’i gynnydd yn yr ysgol, fel y manylir arno yn Atodlen 2.

(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cofnod addysgol” (“educational record”) yw unrhyw gofnod  gwybodaeth, gan gynnwys cofnod cwricwlaidd disgybl—

(a)     sydd wedi ei brosesu gan neu ar ran corff llywodraethu unrhyw ysgol a bennir ym  mharagraff (3) neu athro neu athrawes mewn unrhyw ysgol o’r fath;

(b)     sy’n ymwneud ag unrhyw berson sydd, neu sydd wedi bod, yn ddisgybl yn yr ysgol; ac

(c)     a ddeilliodd oddi wrth, neu a ddarparwyd gan neu ar ran, unrhyw un o’r personau a bennir ym mharagraff (4), ac eithrio gwybodaeth sydd wedi ei phrosesu gan athro neu athrawes at ei ddefnydd neu ei defnydd ei hun.

(3) Yr ysgolion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(a) yw—

(a)     ysgol a gynhelir; a

(b)     ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol.

(4) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c) —

(a)     un o gyflogeion yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

(b)     yn achos—

                           (i)    ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig; neu

                         (ii)    ysgol  arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol,

athro neu athrawes neu gyflogai arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysg a gymerwyd ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);

(c)     y disgybl y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef; ac

(ch) rhiant i'r disgybl hwnnw.

Dyletswyddau pennaeth – cofnodion cwricwlaidd

4. Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir a phob ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol gadw cofnod cwricwlaidd, sydd i’w ddiweddaru o leiaf unwaith y flwyddyn, mewn cysylltiad â phob disgybl cofrestredig yn yr ysgol.

Dyletswyddau pennaeth – cofnodion addysgol

5.(1)(1) Cyn pen pymtheng niwrnod ysgol o gael cais ysgrifenedig gan riant am ddatgelu cofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir a phennaeth ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol roi’r cofnod hwnnw ar gael yn rhad ac am ddim i’r rhiant fwrw golwg drosto.

(2) Cyn pen pymtheng niwrnod ysgol o gael cais ysgrifenedig gan riant am gopi o gofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol o’r fath, roi copi ohono i’r rhiant ar ôl i’r ffi (nad yw’n uwch na chost ei ddarparu), os oes un, a ragnodwyd gan y corff llywodraethu gael ei thalu.

(3) Ym mhob achos lle mae’r disgybl dan ystyriaeth i’w dderbyn i ysgol arall (gan gynnwys ysgol annibynnol) neu i sefydliad addysg bellach neu unrhyw le arall ar gyfer addysg neu hyfforddiant, rhaid i’r pennaeth drosglwyddo cofnod addysgol y disgybl i’r person cyfrifol, yn rhad ac am ddim, os bydd y person hwnnw yn gofyn amdano, cyn pen pymtheng niwrnod ysgol o gael y cais.

(4)  Rhaid i’r cofnod a ddarperir o dan baragraff (3) beidio â chynnwys canlyniadau unrhyw asesiad o gyflawniadau’r disgybl.

(5) Pan fo’n cydymffurfio â chais am ddatgelu cofnod addysgol disgybl neu gopi o’r cofnod hwnnw o dan baragraffau (1), (2) neu (3) o’r rheoliad hwn, rhaid i bennaeth beidio â datgelu unrhyw ddogfennau sy’n ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 30(2) o Ddeddf Diogelu Data 1998([6]).

Trosglwyddo gwybodaeth pan fo disgybl yn newid ysgol

6.(1)(1) Yn y rheoliad hwn ystyr “gwybodaeth drosglwyddo gyffredin” (“common transfer information”) yw’r wybodaeth a restrir yn Atodlen 2.

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei throsglwyddo ar ffurf sy’n ddarllenadwy gan beiriant, caniateir i’r gofyniad hwnnw gael ei fodloni drwy drosglwyddo’r wybodaeth—

(a)     drwy wefan ddiogel ar y rhyngrwyd a ddarperir at y diben hwnnw gan neu ar ran Gweinidogion Cymru; neu

(b)     drwy fewnrwyd a ddarperir at y diben hwnnw gan neu ar ran awdurdod lleol, ac at ddibenion y rheoliad hwn mae mewnrwyd yn golygu rhwydwaith caeëdig y gellir ei gyrchu’n unig—

                           (i)    gan yr awdurdod lleol,

                         (ii)    gan neu ar ran corff llywodraethu ysgol yn yr awdurdod hwnnw,

                       (iii)    gan athro neu athrawes mewn ysgol yn yr awdurdod hwnnw,

ac eithrio, pan fo disgybl yn trosglwyddo i ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol arall, bod rhaid bodloni’r gofyniad drwy drosglwyddo’r wybodaeth drwy wefan ddiogel ar y rhyngrwyd a ddarperir at y diben hwnnw gan neu ar ran Gweinidogion Cymru.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fo disgybl yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir (yr “hen ysgol”) ac yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arall (yr “ysgol newydd”), rhaid i wybodaeth drosglwyddo gyffredin y disgybl a’i gofnod addysgol gael eu trosglwyddo i bennaeth yr ysgol newydd cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad y daeth pennaeth yr hen ysgol i wybod am y tro cyntaf am gofrestriad y disgybl yn yr ysgol newydd a sut bynnag heb fod yn hwyrach na chyn pen pymtheng niwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y mae’r disgybl yn peidio â bod yn gofrestredig yn yr hen ysgol.

(4)  Rhaid i’r wybodaeth a’r cofnod y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3) gael eu trosglwyddo gan bennaeth yr hen ysgol neu, pan fo’r pennaeth hwnnw a’r awdurdod lleol wedi cytuno ar hynny, gan yr awdurdod hwnnw.

(5) Rhaid i’r wybodaeth drosglwyddo gyffredin gael ei throsglwyddo ar ffurf sy’n ddarllenadwy gan beiriant.

(6) Caniateir i’r cofnod addysgol gael ei drosglwyddo ar ffurf sy’n ddarllenadwy gan beiriant neu ar ffurf papur neu drwy gyfuniad o’r ddwy ffurf.

(7)  Pan na fo’n rhesymol ymarferol i bennaeth yr hen ysgol ganfod ysgol newydd y disgybl, neu pan fo’r pennaeth yn gwybod bod y disgybl yn symud i ysgol nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru neu Loegr, nid yw’r gofynion ym mharagraffau (3) a (4) o’r rheoliad hwn yn gymwys ond mae’n rhaid i bennaeth yr hen ysgol drosglwyddo’r wybodaeth drosglwyddo gyffredin i wefan ddiogel ar y rhyngrwyd a ddarperir at y diben hwnnw gan neu ar ran Gweinidogion Cymru.

(8)  Pan fo disgybl wedi ei gofrestru mewn ysgol a gynhelir am lai na phedair wythnos, bydd y cydymffurfio’n ddigonol at ddibenion paragraffau (3) a (4) os yw pennaeth yr ysgol honno neu, pan fo’n gymwys, yr awdurdod lleol yn trosglwyddo’r wybodaeth honno a’r cofnod hwnnw y mae wedi eu cael o dan y rheoliad hwn oddi wrth yr ysgol lle’r oedd y disgybl wedi ei gofrestru o’r blaen ar y ffurf a gafwyd ganddo.

(9) At ddibenion paragraff (8), mae’r cyfeiriad ym mharagraff (3) at “pymtheng niwrnod ysgol” yn gyfeiriad at nifer y diwrnodau ar ôl y diwrnod y mae’r disgybl yn peidio â bod yn gofrestredig yn yr ysgol o dan sylw neu at nifer y diwrnodau ar ôl i bennaeth yr ysgol honno gael yr wybodaeth a’r cofnod, p’un bynnag yw’r diweddaraf.

(10) Os bydd pennaeth hen ysgol disgybl yn cael cais gan bennaeth yr ysgol lle mae’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ar hyn o bryd, yn gofyn naill ai am yr wybodaeth drosglwyddo gyffredin ynglŷn â’r amser y gadawodd y disgybl yr hen ysgol neu am unrhyw gofnod addysgol ynglŷn â’r disgybl hwnnw sydd ym meddiant yr hen ysgol, rhaid i’r pennaeth ei darparu neu ei ddarparu cyn pen pymtheng niwrnod ysgol o gael y cais.

(11) Os bydd disgybl yn cyrraedd ysgol newydd a gynhelir ac nad yw ei hen ysgol ar gael, rhaid i bennaeth yr ysgol newydd gysylltu â’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol newydd i wneud cais am chwilio’r wefan ddiogel ar y rhyngrwyd a ddarperir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru am wybodaeth drosglwyddo gyffredin y disgybl.

Cyfieithu gwybodaeth a dogfennau

7.(1)(1) Os yw'n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol fod unrhyw ddogfen neu wybodaeth, y mae’n ofynnol ei rhoi ar gael o dan y Rheoliadau hyn ac sydd wedi ei darparu yn Gymraeg, yn cael ei chyfieithu i'r Saesneg, rhaid ei chyfieithu felly a bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r  ddogfen neu'r wybodaeth a gyfieithwyd felly fel y maent yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth wreiddiol.

(2) Os yw'n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol fod unrhyw ddogfen neu wybodaeth, y mae’n ofynnol ei rhoi ar gael o dan y Rheoliadau hyn ac sydd wedi ei darparu yn Saesneg, yn cael ei chyfieithu i'r Gymraeg, rhaid ei chyfieithu felly a bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth a gyfieithwyd felly fel y maent yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth wreiddiol.

(3)  Os yw'n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol fod unrhyw ddogfen neu wybodaeth, y mae’n ofynnol iddi fod ar gael o dan y Rheoliadau hyn, yn cael ei chyfieithu i iaith ac eithrio Cymraeg neu Saesneg neu fod fersiwn Braille neu fersiwn tâp sain o’r ddogfen honno ar gael, rhaid ei chyfieithu neu ei chynhyrchu felly mewn Braille neu ar ffurf tâp sain, yn ôl y digwydd, a bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth a gyfieithwyd, y fersiwn Braille neu’r fersiwn tâp sain, fel y maent yn gymwys i'r ddogfen neu'r wybodaeth wreiddiol.

(4) Ni ddylid codi unrhyw dâl am gopi o unrhyw wybodaeth a gyfieithwyd yn unol â pharagraffau (1), (2) neu (3), ond pan fo ffi yn cael ei chodi am gopi o ddogfen wreiddiol, rhaid peidio â chodi unrhyw ffi uwch am gopi o'r ddogfen a gyfieithwyd felly.

 

 

 

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

29 Gorffennaf 2011                                                                                                                   


ATODLEN 1                            Rheoliad 1

Y RHEOLIADAU A DDIRYMWYD

 

Y Rheoliadau a ddirymwyd

Cyfeirnodau

Rhychwant y dirymu

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004

 

O.S. 2004/1026 (Cy.123)

Y rheoliadau cyfan

Rheoliadau'r

Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod

Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru)

2004

 

O.S. 2004/2914 (Cy.253)

Rheoliad 5

Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005

 

O.S. 2005/1396 (Cy.110)

Rheoliad 5

Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005

 

O.S. 2005/3239 (Cy.244)

Paragraff 13 o Atodlen 2

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2007

 

O.S. 2007/3563 (Cy.313)

 

 

 

Y rheoliadau cyfan

 

 

 

 

Rheoliadau Deddf   Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010                      

O.S. 2010/2431

(Cy. 209)

Rheoliad 7

ATODLEN 2    Rheoliad 6

YR WYBODAETH DROSGLWYDDO GYFFREDIN

1. Yr wybodaeth ganlynol am y disgybl—

(a)     rhif unigryw disgybl;

(b)     rhif unigryw dysgwr, os yw’n hysbys;

(c)     cyfenw;

 (ch)  enw(au) cyntaf;

(d)     dyddiad geni;

 (dd)  rhyw;

(e)     grŵp ethnig;

(f)      hunaniaeth genedlaethol;

  (ff)  pwy a ddarparodd yr wybodaeth am grŵp ethnig y disgybl;

(g)     iaith gyntaf y disgybl;

 (ng)  pa mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg;

(h)     a yw'r disgybl yn siarad Cymraeg gartref neu beidio;

(i)      pwy a ddarparodd yr wybodaeth am ba mor rhugl yw'r disgybl yn y Gymraeg ac a yw'r disgybl yn siarad Cymraeg gartref; ac

(j)      a yw'r disgybl, yn unol ag adrannau 512(3) a 512ZB o Ddeddf 1996([7]), wedi gwneud cais ac a gafwyd ei fod yn gymwys i gael prydau am ddim yn yr ysgol.

2. Pan fo'r disgybl yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol, datganiad cryno am lefel ddysgu’r disgybl o'i asesu yn erbyn y lefelau cyflawniad canlynol—

(a)     “Newydd i Saesneg” (“New to English”);

(b)     “Wedi Dysgu'n Ifanc” (“Early Acquisition”);

(c)     “Wedi Magu Cymhwysedd” (“Developing Competence”);

 (ch)  “Cymwys” (“Competent”); neu

(d)     “Rhugl” (“Fluent”).

3. A oes gan y disgybl anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad o'r canlynol—

(a)     prif angen y disgybl ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd;

(b)     y math o ddarpariaeth AAA sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”([8]), a ddyroddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 sy'n cael ei gwneud ar gyfer y disgybl hwnnw; ac

(c)     y cymorth sy'n cael ei roi.

4. Pan fo’r disgybl yn blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, y ffaith honno ac enw'r awdurdod lleol hwnnw.

5. Manylion y cyfeiriad lle mae'r disgybl yn preswylio fel rheol.

6. Cyfenw o leiaf un person cyswllt a manylion ei berthynas â'r disgybl.

7. Dangosydd bod gwybodaeth feddygol yn bodoli a allai fod yn berthnasol i ysgol newydd y disgybl.

8. Cyfanswm—

(a)     y sesiynau yn y flwyddyn ysgol hyd at y dyddiad y mae'r disgybl yn peidio â bod yn gofrestredig yn yr hen ysgol;

(b)     y sesiynau yn y flwyddyn ysgol a fynychwyd gan y disgybl; ac

(c)     absenoldebau awdurdodedig ac absenoldebau anawdurdodedig y disgybl (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010([9])) yn y flwyddyn ysgol.

9. Y rhif ALl a’r rhif ysgol ar gyfer yr hen ysgol yn ogystal â'r ysgol newydd.

 



([1])           1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30, ac Atodlen 31, i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), a pharagraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21),  Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 12 a Rhan 7 o Atodlen 16 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) a chan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd adran 563(3)(a) ac (c) gan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd adran 563(3)(a) ac (c) ymhellach gan baragraff 172(a) a (b) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

([2])           Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru  2006 (p.32).

([3])           Diwygiwyd is-adran (2) o adran 108 gan adran 21(1) a (7)(a) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5).

([4])           Diwygiwyd is-adran (3) o adran 108 gan adran 21(1) a (7)(b) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 a pharagraffau 11 a 15 o’r Atodlen iddo. Dyma’r gorchmynion cyfredol: Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2915 (Cy.254)) a Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1394 (Cy. 108)).